Robert Bly
Bardd, ysgrifwr, a chyfieithydd Americanaidd oedd Robert Elwood Bly (23 Rhagfyr 1926 – 21 Tachwedd 2021) a fu'n nodedig fel un o arweinwyr y mudiad dynion mythopoeig. Cyhoeddodd ryw hanner cant o gyfrolau yn ystod ei oes.Ganed ef yn Lac qui Parle County, yng ngorllewin Minnesota, i deulu o dras Norwyaidd. Graddiodd o'r uwchysgol yn ninas fechan Madison, Minnesota, ym 1944, a gwasanaethodd yn Llynges yr Unol Daleithiau am ddwy flynedd. Astudiodd yng Ngholeg St Olaf yn Northfield, Minnesota, am un flwyddyn cyn iddo drosglwyddo i Brifysgol Harvard. Derbyniodd ei radd baglor ym 1950, a threuliodd sawl blwyddyn yn Efrog Newydd yn darllen barddoniaeth. Aeth i Brifysgol Iowa i ennill gradd meistr o weithdy'r llenorion ym 1956, ac yna dychwelodd i Madison. Ym 1956–7 derbyniodd gymrodoriaeth i deithio i Norwy. Priododd â'r awdures Carol McLean ym 1955 a chawsant bedwar plentyn cyn iddynt ysgaru ym 1979. Ailbriododd Bly â therapydd o'r enw Ruth Ray ym 1980.
Ym 1958 cyd-sefydlodd Bly gylchgrawn barddoniaeth o'r enw ''The Fifties'', a fyddai'n para am sawl degawd arall dan yr enwau ''The Sixties'', ''The Seventies'', a ''The Eighties''. Daeth i'r amlwg am ei brotestiadau barddonol yn erbyn ymyrraeth yr Unol Daleithiau yn Rhyfel Fietnam, ac enillodd Wobr Genedlaethol y Llyfr am ei gyfrol ''The Light Around the Body'' (1968). Yn y 1970au ysgrifennodd 11 o lyfrau, gan gynnwys casgliadau o gerddi, ysgrifau, a chyfieithiadau, ac yn y 1980au a'r 1990au cyhoeddodd 27 cyfrol arall. Ei lyfr enwocaf, mae'n debyg, yw ''Iron John: A Book About Men'', cyfrol sydd yn tynnu ar fythau, chwedloniaeth, barddoniaeth, a'r gwyddorau mewn ymdrech yr awdur i ddadlau dros adfer gwrywdod. Ystyrir ''Iron John'' yn brif destun y mudiad dynion mythopoeig, a fu'n cynnig hunangymorth i ddynion Americanaidd.
Yn ogystal â'i farddoniaeth wreiddiol a'i ryddiaith, cyfieithai Bly sawl cerddi, nofel, a drama i'r Saesneg, gan gynnwys gweithiau'r beirdd Rainer Maria Rilke, Tomas Tranströmer, Pablo Neruda, ac Antonio Machado, y nofel ''Sult'' gan Knut Hamsun, a'r ddrama ''Peer Gynt'' gan Henrik Ibsen. Yn 2008 penodwyd Bly yn fardd llawryfog cyntaf Minnesota gan y Llywodraethwr Tim Pawlenty. Bu farw Robert Bly yn ei gartref ym Minneapolis yn 94 oed. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12
-
13
-
14
-
15
-
16
-
17
-
18
-
19
-
20